Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
I'r Byw
Llyfrau byrion i blant diamynedd
Llyfrau byrion i blant byr eu hamynedd ydi dwsin o lyfrau newydd sydd newydd eu cyhoeddi gan Wasg Gomer.

Mae'r llyfrau ar gyfer plant dros eu 11 - yr oed hwnnw, meddai'r wasg, pan fo plant yn dueddol o fod yn ddiamynedd gyda straeon hir ac o'r herwydd yn dueddol roi'r gorau i ddarllen.

"Wedi'r cyfan mae cystal adloniant ar y sgrîn fach a gall stori ddod i'w therfyn yn ei blas. Felly stori sydyn amdani," meddai datganiad gan y wasg i gyd-fynd a chyhoeddi'r gyfres newydd I'r Byw.

Mae'r llyfrau yn gymysgedd o'r ffeithiol ac o ffuglen.

"Bydd modd diddanu'r darllenydd anfoddog 11-14 oed gydag amrywiaeth o lyfrau newydd," meddai'r datganiad.

Mae'r amrywiaeth yn cynnwys hanes digwyddiadau rhyfedd ar arfordir Sir Benfro yn haf 1983 - Wyneb Rwber gan Meleri Wyn James a oedd yn ferch ysgol yn a'r holl helyntion am smyglo cyffuriau yn dal yn fyw yn ei chof.

Peryglon gwneud ffrindiau ar y we ydi testun cyfrol arall, Y We, hefyd gan Meleri Wyn James.

Ceir, beiciau a rasio yw un o ddiddordebau mawr yr awdures Elin Meek ac yn Ennill y Ras datgelir bod mwy nag un ffordd o ennill ras.

Hanes ymdrech arwrol Parry Thomas dorri record byd mewn car sydd yn y llyfr Babs - yr enw a roddodd ar y car y'i lladdwyd ynddo ar draeth yn Sir Gaerfyrddin.

Go brin bod angen holi beth yw'r cefndir i Trychineb Medi 11 - sy'n sôn am brofiadau y dyn tân, Pitch Picciotto, yn Efrog Newydd, y diwrnod ysgytwol hwnnw.

Stori ryfedd am ferch yn cyrraedd gwesty anghyffredin yw Tawel Nos.

"Mae'r cyfuniad o ddeunydd ffeithiol diddorol a storïau sy'n ysgwyd i'r byw yn gwneud y gyfres hon yn un fachog, ac efallai y bydd mwy o awydd ar ambell un i gydio mewn llyfr," meddai datganiad Gomer.

Dyma restr gyflawn o'r llyfrau:
Clawr y llyfr
  • Ennill y Ras Elin Meek
  • Y We Meleri Wyn James
  • Wyneb Rwber Meleri Wyn James
  • Lladron Diemwnt y Gromen John Townsend addas. Elin Meek
  • Nol i'r Gwyllt Keith West addas. Elin Meek
  • Llygad Drygioni Paul Jennings addas. Elin Meek
  • Smotiau Bill Ridgeway addas. Elin Meek
  • Tawel Nos John Townsend addas. Elin Meek
  • Torri'n Rhydd Bill Ridgway addas. Elin Meek
  • Trychineb Medi 11 Chris Culshaw addas. Elin Meek
  • Y Cynrhonyn Paul Jennings addas. Elin Meek
    Eu pris yw £4 yr un.



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý