Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Fel Nerthol Wynt
Dan ddylanwad gwynt sy'n chwythu
Adolygiad Glyn Evans o Fel Nerthol Wynt gan Elfyn Pritchard. Gomer. 192 tudalen. £6.99.

Y disgrifiad ar glawr Fel Nerthol Wynt ydi; "nofel gyffrous, amserol, bryfoclyd fydd yn sicr o wneud i chi feddwl".

Go brin y gallech chi ofyn am fwy na hynny.

Clawr y llyfr Ar wahân i'r geiriau hyn ar y clawr cafodd nofel ddiweddaraf Elfyn Pritchard gryn sylw yn sgil canmlwyddiant Diwygiad '04-'05 gan mai Ifan Roberts yw enw'r prif gymeriad ac i Elfyn Pritchard ei hun fod yn dweud na ddymunai weld heddiw ddiwygiad arall tebyg i hwnnw.

Gwewyr a chyffroadau
Ac ydi, mae hi yn nofel sy'n ymwneud â gwewyr a chyffroadau crefyddol ac ymgais i ddiwygio neu, yn wir, wyrdroi Cristnogaeth.

Nid darllen am hyn oll a'm gyrrodd i at y nofel, fodd bynnaf, ond dyletswydd i'w hadolygu.

Doedd fy nisgwyliadau ddim yn uchel ond, yn fuan iawn yr oeddwn yn ymgolli yn y stori - rhywbeth nad yw'n digwydd ddigon aml wrth adolygu.

O fewn penodau yr hanner cyntaf mae yma ddigon o awgrymiadau ac o osod abwyd i'n bachu. Darogan rhyw wae anelwig sy'n mynd i darfu ar gyfforddusrwydd beunyddiol y cymeriadau.

Cychwyn ar wyliau
Mae'r nofel yn cychwyn ar fore annifyr o Fedi yn Wrecsam pan yw Ifan Roberts a'i wraig, Bethan, yn cychwyn ar wyliau tramor sy'n argoeli'n un tyngedfennol.

Gyda'r ddyfais o ddarogan a ddefnyddia sawl tro yn ystod y nofel dywed yr awdur am Ifan:
"Pan ddaeth y bws roedd ei chweched synnwyr ar waith drachefn, yn ei rybuddio ei fod yn wynebu byd bygythiol a sinistr, a bod y camu i'r bws yn symbol o gamu i'r anwybod mawr, dieithr."

Wedi prolog y bennod gyntaf mae'r nofel yn ailgychwyn yn ystod y cyfnod sy'n arwain at ddal y bws tyngedfennol hwn.

Dyma pryd y deuwn i adnabod Ifan Roberts fel cyfrifydd parchus, blaenllaw yn ei gymdeithas, amlwg yn ei gapel, triw i'w deulu ac yn Daid hyfryd i'w wyrion.

Ond gweithaholig sy'n gorfod ildio i orfodaeth ei deulu i fynd ar wyliau gyda'i briod, Bethan, i Ffrainc. Ei wyliau cyntaf ers cantoedd, os nad erioed.

Hyn sy'n arwain at ddal y bws yna yn Wrecsam ac yn ystod y gwyliau hwn gwelwn ddechrau datgelu rhywfaint ar ddarogan y prolog er na ddatgelir yn llwyr beth sydd wedi digwydd - daw hynny bob yn friwsionyn yn ystod trydedd ran y nofel.

Digwyddiad mewn eglwys
Mae'r cyfan wedi ei hoelio ar ddatgeliad rhyfeddol yn eglwys La Clusaz yn Alpau Ffrainc. Datgeliad sy'n chwyldroi yn llwyr fywyd Ifan Roberts a'i agwedd tuag at y grefydd Gristnogol gonfensiynol y bu'n ei byw cyn hyn.

"Mae yna nerthoedd y tu ôl i mi, y tu hwnt i'r byd materol hyd yn oed, yn fy ngyrru i," meddai wrth geisio egluro'r grym sydd wedi'i feddiannu - grym sy'n cael ei ddisgrifio fel "rhyw wynt nerthol" a hynny'n atgof o'r ddelwedd Feiblaidd o'r Ysbryd Glân.

Wedi ei feddiannu
Bellach, mae'r cyfrifydd ceidwadol a chymesur yn ddyn wedi ei feddiannu; yn union fel y diwygiwr o'r un enw yn '04-'05.

Y cwestiwn yw ai dyn wedi ei feddiannau gan rhyw weledigaeth newydd ydyw ynteu un a feddiannwyd gan gabledd.

Troediwn gydag ef a'i deulu y ffin denau honno rhwng argyhoeddiad dwfn a gorffwylltra sy'n bygwth nid yn unig ddryllio Ifan Roberts ond ei garennydd hefyd.

Tipyn o gors
Cyrhaeddwn gyfnod yn y nofel pan yw'r prif gymeriad, a'r awdur, mewn rhywfaint o gors a honno'n gors nad yw'n ei chael yn hawdd ei thrin.

Yn sicr mae'r pryder am gyflwr meddwl Ifan Roberts a'i densiynau mewnol o ddiddordeb sy'n ganolog i'r holl nofel ond mae'r awdur mewn peryg o fod yn euog o lawer iawn gormod o droi a throsi athronyddol ac o ailbobi'r un pwyntiau argyfyngus drosodd a throsodd wrth ymdrin a gwewyr Ifan.

Mae hon yn rhan o'r nofel a fyddai wedi elwa ar naddu a chwtogi llawer llymach er mwyn cadw'n diddordeb ac er mwyn symud yn llyfnach tuag at ddiweddglo anorfod y nofel.

Er yr enghreifftiau rhagorol o greu disgwyliadau nid yw'r sylweddoliad mor effeithiol.

Y diwedd
Diweddglo anorfod? Ie - a rhagdybiedig hefyd gan beri rhywfaint o siom nad yw'r diwedd yn fwy annisgwyl. Yn fwy o ergyd neu ysgytwad i'r darllenydd.

Bydd rhai yn teimlo rhywfaint o siom hefyd pan ddatgelir cyfrinach gweledigaeth Ifan yn La Clusaz gan nad yw'r 'gwirionedd' a ddaw iddo mor ysgytiol - na newydd - pan ddaw i'r golwg ac a awgrymir wrth ei ddarogan!

Gwneud y syniad canolog hwn yn ysgytiol ac yn gredadwy ar yr un pryd oedd yr her fawr wrth sgrifennu'r nofel hon ond dydw i ddim yn siwr a lwyddodd yr awdur gant y cant yn hynny o beth - er imi fynnu cadw gydag ef hyd at ddiwedd y stori - er gwaetha'r athronyddu estynedig.

Nofel gyffrous, amserol, bryfoclyd fydd yn sicr o wneud i chi feddwl, felly?
Er nad yw'r broliant yn gelwydd - dydi o ddim, ychwaith, yn dweud y gwir i gyd!
Fel cymaint o bethau yn y byd crefyddol.

Cysylltiadau Perthnasol



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý