Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cyfres Slawer Dydd - y ddau lyfr cyntaf
Rhyfel y Degwm gan Mair Wynn Hughes; Y Llo Gwyn gan Hilma Lloyd Edwards. Cyfres Slawer Dydd. Gwasg Gomer. £4.99 yr un.


Mae'n siwr o fod yn ffordd digon effeithiol o ddysgu hanes; creu straeon dychmygol wedi eu gwreiddio mewn cyfnodau hanesyddol perthnasol.

Clawr Rhyfel y DegwmY syniad yw fod plant yn debycach o droi at y 'ffug' er mwyn deall y gwir nag at werslyfr cydnabyddedig.

"Nes na'r hanesydd . . ." R Williams Parry a 'ballu, wrth gwrs.

Ac os yw'r nofelydd a'r llenor yn nes at y gwir di-ball dylai'r gyfres newydd hon gan Wasg Gomer fod yn gryn llwyddiant.

I wthio'r cwch i'r dwr dewiswyd dwy awdures brofiadol a diddan sydd wedi hen ennill eu plwy, Mair Wynn Hughes o Bentraeth Ynys Môn a Hilma Lloyd Edwards o'r Bontnewydd ger Caernarfon sydd yn ffefrynnau'n barod ymhlith ein darllenwyr ifainc.

Bwriedir y nofelau ar gyfer plant rhwng wyth a deg oed ac yn ogystal â'r hyn a ddisgrifir gan Gomer fel "testun yn llawn antur a chyffro" mae lluniau "trawiadol a manwl" gan Graham Howells o Lanelli.

Dyffryn Clwyd yn ystod wythdegau y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw cefndir Rhyfel y Degwm gyda digwyddiadau cythryblus y gwrthryfel gwerin hwnnw yn cael eu gweld drwy lygaid dau fachgen, Tomos a Wiliam, y mae eu tad yn un o'r protestwyr yn erbyn annhegwch degymu.

Mae golygfeydd yn ymwneud â milwyr a phlismyn a disgrifir ffermwyr yn cael eu pastynu at waed.

Yn y cefndir hefyd y mae aflwydd arall o'n hen hanes, y Welsh Not.

Mae cefndir yr ail nofel, Y Llo Gwyn yn dra gwahanol gan gychwyn gydaClawr Y Llo Gwyn phriodas ym mhentref Celtaidd, Dinas Dinorwig, y mae ei olion i'w gweld o hyd rhwng Caernarfon a llethrau'r Wyddfa.

Cychwyn yr antur pan yw llo gwyn sanctaidd o eiddo'r llwyth yn diflannu gan beri i'r llwyth ymbaratoi i ymosod ar fryngaer arall gyfagos, Dinas Lleu, gan gredu i rywun oddi yno ei ddwyn.

Dwy nofel gyffrous ddigon o ddwylo profiadol sydd hefyd yn mynd i fod yn agoriad llygad gyda'r gymysgedd iawn o hanes a ffuglen.

Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý