Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Mi Gana'i Gân.
Adolygiad Ioan mai Evans o Mi Gana'i Gân. Cerddi a Baledi Gruffudd Parry wedi eu casglu er cof amdano gan gyfeillion. Gwasg Carreg Gwalch. £5.


Cyfrol arbennig gan lenor tra arbennig. Cofiaf Gruffudd Parry, gyntaf, yn croesi'r Maes ym Mhwllheli ar nosau Gwener ac yn diflannu am adref yn y Moto Coch oedd yn rhedeg i Gaernarfon.

Clawr y llyfrMewn dim o amser, clywais ei fod wedi ymsefydlu yn athro yn Ysgol Uwchradd Botwnnog. Yn bur fuan wedyn daeth yn enw poblogaidd yn hanes perfformiadau plant yr ysgol.

Ysgwn i ai galw i gof y profiad a gafodd ef ei hun o adael yr ysgol ar bnawniau Gwener a sbardunodd cân fel hon?
Plant ysgol yn mynd adref i fwrw'r Sul ar bnawn Gwener yn y gaeaf -

Bnawn Gwener Gaeaf a'r machlud ar sglein,
Drwy'r ffenestr hyd y coridor hir -
Clep gwadnau a sodlau ar y concrit gwyn
Wrth i'r caethion roi'u traed yn y tir.

Mae lleisiau'r meistri yn eu dilyn am sbel,
A'u harabedd yn brathu i'r byw,
Rhwng clogwyni erchyll Baalseffon y Garn
A chreigiau Piahiroyj y Rhiw.

Ia, 'bwrw'r Su/' ac nid penwythnos a'r Sul hwnnw yn gofyn am gymhariaeth Feiblaidd.

Clawr y llyfrAi y rhain oedd y plant oedd yno pan ddaeth yr eos Olwen Lewis, o Fôn, yn athrawes gerdd yr ysgol? A phwy ond Gruffudd Parry, i gyfansoddi geiriau i ganeuon un a swynodd gynulleidfaoedd draw ac yma.?

Yna, fel y dywed yr Athro Gwyn Thomas yn ei gyflwyniad i'r gyfrol: "Fel awdur sgriptiau eneiniedig Co Bach yr hen raglen radio, Noson Lawen, y clywais i gyntaf am Gruffudd Parry . . ."

Dyma'r blynyddoedd pryd yr enillwyd clustiau'r miloedd i glywed am droeon Yr Hen Fodan a Wil Bach.

Cymaint o chwerthin iach fu ar ein haelwydydd yn nyddiau'r Co Bach.

Mae i'r gyfrol dair rhan, gan gychwyn gyda'r Cerddi ar destunau mor amrywiol a 'Mae hi'n dipyn o daith i Ewrop' a safle daearyddol cartref Gruffudd Parry ar benrhyn Llyn a'r canwr baledi Harri Richards yn gyfrwng ac yn ysbrydoliaeth i gyfansoddi baledi wrth y llath bron.

A'r faled fwyaf poblogaidd y dyddiau hyn yw'r un am Y Mewnlifiad.

Yma cewch blyciau o chwerthin dilywodraeth;
Mi ddeudai chwi hanes hen lanc o Ben llyn
Fu'n byw yn y Sarn yn ei fwthyn ei hun.

Cewch ddilyn hanes Dafydd wedi iddo droi yn David pan gyfarfu â Joan

Aeth Dafydd yn David pan gollodd ei ben
I'r feinwen het silc a sgert ddu a blows wen,
A ddwedodd wrth briodi'n yr offis yn dre
'Come on little lad let's take it away.'

Arwyddion dychanol o'r amserau gan feistr dychan a hwyl ar fydr ac odl.


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý