Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ

Explore the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cyfres TAB a'r Cadabras
Adolygiad Meirion Puw Rees o Dirgelwch y Ty Gwag a Dirgelwch y Powdwr Cosi gan Sian Lewis. Cyfres TAB a'r Cadabras. Gwasg Gomer. £4.99 yr un.


Oed saith i naw.
Dau lyfr yng nghyfres TAB a'r Cadabras ydi Dirgelwch y Ty Gwag a Dirgelwch y Powdwr Cosi ond peidiwch â disgwyl darganfod pam mai dyna yw enw'r gyfres tan ddiwedd y llyfr cyntaf!

Clawr y llyfrWrth agor Dirgelwch y Ty Gwag, y llyfr cyntaf yn y gyfres, mae yna lun llyfr efo'r teitl "FFEIL Tomos Aled Beynon i dditectifs" ac wedyn "Ces 1 - Dirgelwch y Ty Gwag" ac yn dilyn rhestr o gynnwys sydd yn mynd, "Map, Cliwiau" ac "Yr Hanes" .

Yn fy marn i mae hyn, ar yr olwg gyntaf, yn cymhlethu pethau'n ofnadwy gan fod yn rhaid darllen am sbel cyn deall perthnasedd y lluniau.

Peth arall; wrth ddarllen y llyfr mae'n ymddangos bod cyfeiriad y gwynt yn bwysig - pam felly peidio â rhoi cyfeiriad y gwynt ar y llun o'r ceiliog gwynt ar y ddalen 'cliwiau'?

Mae cychwyn yr ail lyfr yn hollol wahanol efo rhyw fath o ragarweiniad.

Mi liciwn i gael cysondeb gan fod y llyfrau yn perthyn i'r un gyfres.

Pethau bach, mi wn, ond pethau sy'n tynnu oddi ar y mwynhad o'r llyfr.

Y straeon
Beth bynnag, ymlaen at y straeon eu hunain.
Yn y llyfr cyntaf, Dirgelwch y Ty Gwag, mae Tomos yn darganfod bod dau o blant y consurwyr enwog, Morgan a Marged Cadabra, wedi symud i Ty Mawr' ac wedi colli eu Nani. Fel ditectif yr ardal rhaid i Tomos ddarganfod lle mae'r Nani a beth sydd wedi digwydd iddi.

Mae'r un cymeriadau yn yr ail lyfr lle mae Morgan a Marged Cadabra wedi cael rhybudd fod rhywun am ddifetha parti maent yn y'i drefnu.
Plot bach digon diddorol i blentyn ifanc.

Gwnaeth Sian Lewis yr awdur ymdrech glir i gynnwys hiwmor yn ei llyfrau. Er engraifft mae'n siwr bod y syniad o Locsyn (ci) mewn sarong a tuxcedo' wedi ei wneud o ganiau yn ddigri.

Mae'n llwyddo i greu lluniau doniol felna drwy'r llyfrau.

O gymharu'r ddau lyfr, yr ail yw'r gorau lle mae'r stori yn llawer cryfach ac yn haws o lawer i'w dilyn.

Mae'r cliwiau wedi eu gosod allan yn well hefyd.

Ar ben hynny, mae'r cymeriadu hefyd yn well yn yr ail lyfr.

Yn y llyfr cyntaf mae Tomos, y prif gymeriad, yn ddi-emosiwn - efallai er mwyn creu'r syniad ei fod yn dditectif proffesiynol. Yn anffodus dydi hyn ddim yn gweithio ac yn yr ail lyfr mae Tomos yn dangos rhyw fath o emosiwn, yn enwedig pan fo'n meddwl am tuxcedo' wedi ei wneud o ganiau!

Cymeriadau
Mae'r awdur hefyd yn amlwg yn ceisio pwysleisio y cymeriadau drwy eu cyferbynu â chymeriadau eraill. Er engraifft mae cyferbyniad amlwg rhwng Tomos a'r ddau blentyn Cadabra gyda Tomos ar y naill law yn hogyn distaw, meddylgar yn rhoi'r argraff o rywun dwfn iawn ond ar y llaw arall mae Ab a Babs yn blant eithafol, cynhyrfus yn rhoi'r argraff o rai dwl, gwirion, yn enwedig o'u cymharu â Tomos.

I ryw raddau, llwyddodd yr awdur i gyferbynnu'r cymeriadau gan greu gwahaniaethau clir rhyngddyn nhw ond does ddim cydymdeimlad i gael â Tomos am orfod delio â'r fath blant.

Ta beth, os ydych yn rhiant dyma ddau lyfr da i blant - rhai hawdd i'w deall, lliwgar a bywiog ac yn gychwyn da i gyfres newydd.

Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the Ä¢¹½¶ÌÊÓÆµ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý